Y Cyfarfod Llawn |
Dyddiad y cyfarfod: |
|
|
|
||
Amser y cyfarfod: |
||
|
||
|
||
|
Pleidleisiau a Thrafodion (221) |
1 Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Dechreuodd yr eitem am 13.30
Gofynnwyd y 10 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd arweinwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog ar ôl cwestiwn 2.
2 Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Dechreuodd yr eitem am 14.15
3 Datganiad gan y Gweinidog Cyfoeth Naturiol: Y Bil Cynllunio (Cymru)
Dechreuodd yr eitem am 14.31
4 Datganiad gan y Gweinidog Addysg a Sgiliau: Cymwys am oes: Cynllun gwella addysg ar gyfer Cymru
Dechreuodd yr eitem am 15.14
5 Datganiad gan Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth: Ymateb i Adroddiad Comisiwn Cwmnïau Cydweithredol a Chydfuddiannol Cymru
Dechreuodd yr eitem am 16.05
6 Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Y wybodaeth ddiweddaraf am Bapur Gwyn Iechyd y Cyhoedd
Dechreuodd yr eitem am 16.30
7 Datganiad gan y Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth: Lansio rownd ariannu Buddsoddi i Arbed 2014
Dechreuodd yr eitem am 17.21
8 Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm Rhif 4) ar y Bil Dadreoleiddio: diwygio deddfwriaeth yn ymwneud â blaendal tenantiaeth
Dechreuodd yr eitem am 18.01
NDM5589 Carl Sargeant (Alun a Glannau Dyfrdwy)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Dadreoleiddio sy'n ymwneud â Phennod 4 o Ran 6 o Ddeddf Tai 2004 (Cynlluniau Blaendal Tenantiaeth) i'r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm rhif 4) yn y Swyddfa Gyflwyno ar 30 Mehefin 2014 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2(iii).
Derbyniwyd y cynig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
9 Cyfnod Pleidleisio
Ni chafwyd Cyfnod Pleidleisio.
Daeth y cyfarfod i ben am 18.03
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13.30, Dydd Mercher, 8 Hydref 2014